Cerddwn Gwalia

Bu’n bleser gan Sioned gyfansoddi cân arbennig ar gyfer yr ymgyrch o’r enw, ‘Cerddwn Gwalia’, (a ddaeth yn record yr wythnos ar BBC Radio Cymru), a’r elw ohoni yn mynd yn syth i’r gronfa. Gwelwyd Sioned yn yn canu’r gân ar y rhaglen gylchgrawn ‘Heno’ ar S4C ac yn ogystal cafwyd cyngerdd mawreddog yn Venue Cymru, Llandudno, ar drothwy Cerddwn Ymlaen, lle bu sawl perfformiad gwefreiddiol gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru a pherfformiodd Sioned y gân elusenol, Cerddwn Gwalia yno hefyd. Darlledwyd y cyngerdd ar S4C yn ogystal.